Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dynes 19 oed o Abertawe.

Dydy Lucy Duncan o Horton ym Mhenrhyn Gŵyr ddim wedi cael ei gweld ers 11.55 fore dydd Iau, pan adawodd hi ei chartref mewn Volkswagen Take up.

Tynnodd hi arian o dwll yn y wal ym manc HSBC Abertawe hanner awr yn ddiweddarach, ac mae lle i gredu ei bod hi wedi teithio ar hyd yr A465 drwy Hirwaun a Brynmawr.

Cafodd ei char ei weld yn Henffordd am oddeutu 3 o’r gloch yr un diwrnod, ac mae pryderon am ei diogelwch yn sgil y tywydd yr wythnos hon. Mae’r heddlu bellach yn dweud ei bod yn bosib y gallai hi fod yn ardal Rochdale.

Mae hi’n 5’4″-5’5″ a chanddi wallt brown golau wedi’i glymu’n ôl. Roedd hi’n gwisgo crys-T du, trowsus du a siaced goch pan aeth hi ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.