Mae disgwyl i eira Cymru ddadmer ac i’r tymheredd ddechrau codi unwaith eto ar hyd a lled Cymru heddiw.

Ond mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym o hyd tan 11 o’r gloch y bore yma, a nifer o rybuddion am lifogydd o hyd hefyd.

Mae 30 o eiddo eisoes wedi’u heffeithio gan lifogydd, ond dim ond ambell ffordd sydd ynghau o hyd, gan gynnwys yr A44 yn Llangurig, a ffyrdd mynyddig y Bwlch, Caerffili, Maerdy a Rhigos. Ychydig iawn o oedi sydd ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn hyn.

Mae rhybudd o hyd i deithwyr fod yn ofalus gan fod tipyn o ddŵr ar y ffyrdd.

Mae disgwyl i’r tymheredd godi i 4-8 gradd selsiws yn ystod y dydd, ac mae disgwyl cawodydd glaw hefyd.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae bysus Stagecoach wedi’u hailgyflwyno unwaith eto, ond mae cwmni Bysus Caerdydd wedi canslo teithiau cyn 9 o’r gloch.

Mae peth oedi i deithiau awyr o Faes Awyr Caerdydd o hyd.

Mae miloedd o bobol wedi cael eu cyflenwad trydan yn ei ôl, ond mae hyd at 1,000 o bobol heb gyflenwad yng Nghastell-nedd o hyd.