Mae llanc 17 oed o Lantrisant wedi ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 11 mlynedd dan glo yn Llys y Goron Birmingham heddiw, wedi iddo fygwth cynnal ymosodiad brawychol yng Nghaerdydd.

Cafodd Lloyd Gunton ei arestio yn ei gartref yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mehefin, rhai oriau ar ôl pori am fanylion diogelwch cyngerdd yn y ddinas.

Gerbron llys ym mis Tachwedd, cafodd y llanc ei farnu’n euog o baratoi gweithredoedd brawychol, dau gyhuddiad o annog brawychiaeth, a dau gyhuddiad o feddu ar bropoganda eithafol.

Clywodd y llys bod y cynllwyniwr o gefndir gwyn Prydeinig, a’i fod wedi’i ysbrydoli gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a deunydd ar y We.

Roedd Llyfrgell Ganolog Caerdydd ac ardal Castell Caerdydd ymysg targedau posib, a chlywodd y rheithgor ei fod wedi sgwennu “llythyr merthyrdod”.

Wrth ei ddedfrydu i oes dan glo, dywedodd y Barnwr Mark Wall QC: “Rwy’n sicr eich bod nid yn unig wedi cynllunio i ladd un person ond nifer helaeth o bobl.”