Dyw Plaid Cymru’n ganolog a’i changen leol yn Llanelli ddim agosach at gyfaddawd, yn ôl aelod o’r gangen a fu’n rhan o gyfarfod neithiwr.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn sgil ffrae wnaeth arwain at y gangen gyfan yn cael ei ddiarddel yr wythnos diwethaf.
Yn ôl aelod, sydd ddim am i golwg360 ddatgelu ei enw, doedd y cyfarfod ddim yn gynhyrchiol ac roedd y “mwyafrif helaeth o bobol” yn anhapus ar y diwedd.
“Mae’n draed moch, i ddweud y gwir,” meddai’r aelod wrth golwg360. “Mae’n anodd dweud sut fydd pethau’n datblygu… Ar hyn o bryd dyw pethau ddim yn edrych yn dda.
“Yn amlwg, ar lefel bersonol, mae gen i lawer i’w ystyried heddiw. Dw i’n gwybod bod llawer wedi gwneud eu penderfyniad [ac ymddiswyddo], sydd yn beth trist i ddweud y gwir.”
Mae’r aelod, yn dweud bod o leiaf dri aelod arall o Blaid Cymru wedi ymddiswyddo yn sgil y cyfarfod – a bod tua 25 yn ystyried gadael. At hynny, meddai, mae swyddfa’r blaid yn nhref Llanelli yn wag – sefyllfa sy’n “hollol wallgof”.
Fel hyn y cyhoeddodd Liam Rees ar Twitter ei fod yn gadael Plaid Cymru – “un o nifer”.
https://twitter.com/Leroysification/status/968267734810324992
Diarddel
Er i Blaid Cymru gydnabod bod “problemau gweinyddol” wedi bod, ddaeth yna ddim ymddiheuriad “go iawn” nag esboniad am ddyfodol yr aelodau gan y prif swyddogion yn y cyfarfod neithiwr, yn ol yr aelod.
Mae nodi eu bod “o hyd yn chwilio am eglurder” o ran hyd y cyfnod diarddel, a bod dim sôn wedi bod am statws Mari Arthur – yr ymgeisydd etholiadol sydd wrth wraidd y ffrae.
Â’r aelodau bellach wedi’u gwahardd rhag mynychu a threfnu cyfarfodydd, mae’r aelod yn dweud bod “pawb sydd ynghlwm” yn dioddef. Ac mae’n galw am ymchwiliad.
“Jyst cynhaliwch ymchwiliad!” meddai wrth golwg360. “Dw i ddim yn cytuno pam nad yw’r rhai sydd ynghlwm â hyn yn cytuno i gynnal ymchwiliad. Byddai modd datrys hyn wedyn.”
Problem yn lledaenu
Ar ben hyn i gyd, mae’r aelod yn nodi bod y broblem bellach wedi lledaenu i ganghennau eraill – yn cynnwys cangen Llangennech – lle mae’n dweud bod yna “broblemau mawr”.
“Mae’n sefyllfa anffodus iawn, i ddweud y gwir. Mae lot o broblemau o fewn cangen tref Llanelli ac yn anffodus mae’n edrych fel bod hyn yn lledaenu i ganghennau eraill.”
“Dydy’r problemau ddim wedi eu cyfyngu i gangen y dref yn unig. Mae yna broblemau mewn canghennau eraill hefyd.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.