Mae dyn o Loegr oedd wedi beirniadu’r Gymraeg ar Twitter yn ystod gwyliau yng Nghymru wedi newid ei enw ar y wefan gymdeithasol i gyfleu’r neges “meddyliwch cyn i chi siarad”.

Mewn neges yn beirniadu arwyddion dwyieithog, dywedodd Lee Halford o Swydd Middlesex yn ei neges wreiddiol: “Sais ar ei wyliau ar hyn o bryd yng Nghymru. Dw i’n cael yr arwyddion dwyieithog yn beryglus. Mae’n cymryd dwywaith mor hir i fi eu darllen nhw ac erbyn hynny, mi allwn i fod wedi achosi damwain. Dw i ddim ychwaith yn gweld pam, fel Sais, fod rhaid i fi ariannu’r Gymraeg.”

Mae e bellach wedi dileu’r neges ar ôl cael ei feirniadu’n helaeth mewn degau o negeseuon, ac wedi trydar ddoe: “Neges i fi fy hun – cofia bob amser i ddefnyddio’r ymennydd cyn trydar!”

Erbyn heddiw, mae wedi newid ei enw ar Twitter i ‘Think-before-you-speak’ a’i handlen bellach yw @Thinkdonttweet1.