Mae cymdeithas dai yng ngorllewin Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n “oedi” rhag cymryd camau cyfreithiol yn erbyn tenantiaid sy’n cadw anifeiliaid anwes yn anghyfreithlon mewn fflatiau.

Daw hyn ar ôl i denantiaid yn ardal Penparcau, Aberystwyth, honni bod cymdeithas Tai Ceredigion wedi anfon llythyrau yn nodi bod ganddyn nhw 30 diwrnod i gael gwared ar eu cŵn, neu fe fyddan nhw’n gorfod symud allan.

Ond mae Tai Ceredigion yn mynnu ei bod yn nodi’n glir yn eu ‘Polisi Anifeiliaid Anwes’, sy’n rhan o’r contract tenantiaeth, nad oes hawl gan drigolion sy’n byw mewn fflatiau i gadw cŵn, ac eithrio cŵn gofal.

Maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw wedi bygwth hel pobol o’u cartrefi, a’u bod nhw wedi cymryd y camau diweddaraf hyn yn dilyn dau “ddigwyddiad difrifol” yn ystod y chwe mis diwethaf a oedd yn ymwneud â chŵn afreolus.

Rhybudd i denantiaid

“Cymerwyd camau cyfreithiol yn erbyn tenant ar ystâd arall a oedd wedi torri eu cytundeb tenantiaeth (gan gynnwys anwybyddu’r polisi yma) pan oeddent yn cadw gormod o anifeiliaid anwes yn achosi aflonyddwch ar yr ystâd,” meddai llefarydd ar ran Tai Ceredigion.

“Aeth yr achos i’r llys a dyfarnodd y barnwr o blaid Tai Ceredigion a gorfodi’r tenant o dan sylw i ailgartrefu’r cŵn ychwanegol (y rhai anawdurdodedig) a chafodd eu tenantiaeth ei hisraddio.

“Ni fydd Tai Ceredigion yn oedi rhag cymryd yr un camau cyfreithiol eto, os yw diogelwch a lles pobl ac anifeiliaid eraill yn cael eu peryglu.”