Bydd Cyngor Tref Dinbych yn rhoi £6,000 at gynnal Eisteddfod yr Urdd yno ymhen dwy flynedd.

Cafodd yr eisteddfod ei gwahodd yn ffurfiol i Ddinbych ym mis Mehefin 2017, a bellach mae pwyllgorau apêl wrthi’n ceisio codi arian.

Nod ymgyrchwyr lleol yw codi £60,000, ac mae eisoes dros draean o’r pwyllgorau apêl wedi eu sefydlu i gyrraedd y targed.

Dyma fydd ymweliad cyntaf Eisteddfod yr Urdd â thref Dinbych ei hun, er iddi gael ei chynnal yn Sir Ddinbych saith gwaith yn y gorffennol.

Croesawu’r Urdd

“Rydym ni fel Cyngor Tref yn falch iawn o allu rhoi’r swm yma o arian i gynorthwyo ymdrech y gymuned leol ledled Sir Ddinbych i godi arian tuag at groesawu Eisteddfod yr Urdd yma i’r sir yn 2020,” meddai Maer Cyngor Tref Dinbych, Roy Tickle.

“Gwn bod plant a phobol ifanc y dref, a’r sir yn ei chyfanrwydd, yn edrych ymlaen yn arw at groesawu eu teuluoedd a’u ffrindiau i’n milltir sgwâr fel rhan o ŵyl ieuenctid fwyaf Cymru.”