Fe gafodd plentyn wyth oed ei ddal yn cario cyllell gan Heddlu Dyfed-Powys.

Daeth y wybodaeth i’r fei wrth i’r BBC holi heddluoedd Cymru am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Hefyd daeth i’r amlwg bod Heddlu’r De wedi cymryd gynnau oddi ar blant yn 2015 a 2017.

Ac mae Prif Gwnstabl Heddlu’r De wedi rhybuddio bod plant yn cael eu denu i “ddiwylliant o gario cyllyll”.

Mae plant 11 oed wedi eu dal yn cario cyllyll yn y de, gan ddweud wrth yr heddlu eu bod yn eu cario er mwyn amddiffyn ei hunain, neu er mwyn edrych yn cŵl.

Dywedodd Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu’r De, wrth y BBC bod plismyn yn mynd i ysgolion i egluro oblygiadau troseddu gyda chyllell.

Ac fe ddywedodd un ditectif bod cynnydd yn y nifer o bobol ifanc 11-19 oed sy’n cario cyllyll yng Nghaerdydd.

“Mae gennych chi ambell i un 11 neu 12 yn cario cyllell,” meddai’r Ditectif Arolygydd Abi Biddle wrth y BBC.

“Maen nhw yn meddwl bod y peth yn iawn. Maen nhw o’r farn: ‘Mae gan fy ffrindiau un, felly mae gen i un’.”