Mae tafarn newydd ar safle’r Mochyn Du yng Nghaerdydd, wedi tynnu nyth cacwn yn ei ben ar ôl enwi cwrw yn ‘Mockyn Du’ a’i roi dan yr enw “cwrw Seisnig”.
Mae’r cwmni o Loegr, Brewhouse and Kitchen, sydd wedi prynu’r dafarn, bellach wedi ymddiheuro am y camsillafiad. Ond mae’n dal i lynu wrth y disgrifiad “English style ale” am ei fod yn “Session Bitter” sy’n gwrw Seisnig, yn ôl y cwmni.
Mae’r mater wedi creu stŵr ar Twitter gyda llawer yn cwyno bod y brifddinas wedi colli tafarn unigryw Gymreig i gadwyn ‘digymeriad a diflas’.
Ond mae Brewhouse and Kitchen yn mynnu ei bod yn wahanol gan ei bod yn bragu ei chwrw ei hun ar y safle a’i bod wedi paratoi gwefan a bwydlen ddwyieithog.
Y Mochyn Du
Roedd tafarn y Mochyn Du ar gyrion gerddi Sophia yn enwog am ei Chymreictod ac am gefnogi’r byd chwaraeon yng Nghymru.
Dafliad carreg oddi wrthi mae Stadiwm SWALEC, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ac mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd adeg gemau rygbi Cymru yng Nghaerdydd.
Ar un adeg roedd yr adeilad yn borthordy i’r castell cyn troi’n swyddfeydd a’i addasu wedyn yn dafarn.
Pan ddaeth cwmni Brewhouse and Kitchen yn berchnogion arni, roedden nhw’n awyddus iawn i bwysleisio y bydden nhw’n cynnal y Cymreictod a’r dwyieithrwydd.
Dicter ar Twitter
Here’s a good insult as insults go.
New Cardiff food & ale place @BK_Cardiff was until recently an iconic Welsh (& Welsh language) pub Y Mochyn Du. That’s all gone. Except for this nod to its heritage. Wrong on so many levels. (Via @DilysDJ) pic.twitter.com/XOCBoDvnuJ— Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth) February 6, 2018
Y Mochyn Du’s USP was that it was a Welsh language pub. No need for yet another homogenised ‘hipster’ place in #Cardiff with naff and trite English words on the walls #siomedig #yagym
— Joanna D (@weirenbigog) February 7, 2018
This is literally sacrilege, anywhere but Y Mochyn Du, anywhere but Y Mochyn Du. Usually the type of place i'd love to try as a craft ale fan but can't bring myself to ever go there after it's anglicisation. This was a cultural icon. Devastatingly sad. Heart wrenching ?? https://t.co/40Mhl6a9Ps
— Efan ap Ifor ???????? (@EfanIfor) February 7, 2018
Awful, awful, awful. I will not be visiting and I will go out of my way to tell as many people as possible about your disregard for Welsh language. Y Mochyn Du "English style ale"!!? Who on earth did your branding? Jacob Rees Mogg?
— Essex Havard (@_ALACS) February 7, 2018
Roedd 'Y Mochyn Du' un o'r unig lleoedd yng Nghaerdydd am beint ble fel dysgwr Gymraeg roeddwn i'n gallu ymarfer siarad heb meddwl os di'r staff yn siarad Gymraeg hefyd. Byddwn siomedig os mae'r ddiwylliant (gair cywir?) wedi newid tu ol y'r bar mewn y versiwn newydd
— Joe (@SchmoKelly) February 5, 2018
Shame you've lost the 'Y Mochyn Du' brand. You're just like every other pub in #Cardiff now – nothing unique. Gutted, as I really liked 'y Mochyn'.
— LiamEllis (@liamtellis) February 6, 2018
Braf gweld ymdrechion @BK_Cardiff i gadw naws Cymreig y dafarn drwy enwi un cwrw ar ol Y Mochyn Du…ei gamsillafu fel Y Mockyn Du…a'i ddisgrifio fel 'English Style Ale'. pic.twitter.com/2LAvxfFUEs
— Dilys (@djdilys) February 6, 2018