Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad neithiwr ar y ffordd rhwng Llandeilo a Thalyllychau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4302 ger New Inn am 6yh ddydd Llun (Ionawr 29).
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae’n ymddangos bod y ddynes wedi cael ei tharo tra oedd hi’n cerdded ar hyd y ffordd. Gyrrwr y car wnaeth rhoi gwybod i’r heddlu am y gwrthdrawiad.
Roedd y car, sef Volkswagen Transporter gwyrdd, yn teithio o Rosmaen tuag at Dalyllychau.