Mae deiseb oedd yn galw ar i Blaid Cymru beidio â derbyn Neil McEvoy yn ôl i’r grŵp yn y Cynulliad, wedi cael ei thynnu i lawr oddi ar y we.
Mae cyfreithwyr yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru wedi cysylltu â gwefan change.org, a oedd yn gartref i’r ddeiseb, yn dadlau bod ei chynnwys yn “ddifenwol”.
Ac mae Neil McEvoy wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn ystyried erlyn y bobol “mwy amlwg” a fu’n rhannu’r ddeiseb.
Roedd y ddeiseb, a chafodd ei dechrau yn anhysbys gan ‘Concerned Welsh woman’, wedi denu bron i 20,500 o enwau ers ei chreu ym mis Mawrth 2017, sef pan gafodd Neil McEvoy ei wahardd o’r grŵp am y tro cyntaf.
Fe aeth pobol ati o’r newydd i arwyddo ac i rannu’r ddeiseb pan gafodd ei ddiarddel o’r grŵp yn barhaol ar Ionawr 16 eleni.
Y bwriad oedd cyrraedd 25,000 o lofnodion cyn cyflwyno’r ddeiseb i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Ystyried erlyn
Mae Neil McEvoy wedi galw’r ddeiseb yn “enllibus” ac mae’n dweud wrth golwg360 bod “cyfiawnder” wedi’i sicrhau o’i thynnu i lawr o’r we.
“Roedd yn anghywir, yn ddifenwol iawn ac yn amlwg yn rhan o ymgyrch y sefydliad i fy nistewi,” meddai.
“Mae’r bobol anhysbys y tu ôl iddi wedi camarwain llawer o bobol. Mae arnyn nhw ymddiheuriad i fi ac i bobol a lofnododd y ddeiseb.
“… Mae gen i ddeuddeg mis i benderfynu p’un a fydda’ i’n erlyn y bobol fwy amlwg a hyrwyddodd y ddeiseb.
“Byddaf yn gwneud y penderfyniad hwnnw gyda fy nhîm cyfreithiol,” meddai Neil McEvoy.
“Yn y cyfamser, mae gan y bobol hynny y cyfle i ymddiheuro yn ffurfiol.”