Mae cysylltiad amlwg rhwng y nifer o bobol hoyw, lesbaidd a deurywiol sy’n lladd eu hunain, a’r stigma yn yr ysgol, ac ymateb negyddol y maen nhw’n ei phrofi wrth iddyn nhw ddod allan.
Dyna gasgliad papur sy’n cael ei gyflwyno heddiw (dydd Iau) gan dîm o ymchwilwyr ar ran elusen METRO, Prifysgol Greenwich a Choleg y Brenin Llundain i gynhadledd flynyddol Is-adran Seicoleg Glinigol Cymdeithas Seicoleg Prydain yng Nghaerdydd.
Defnyddiodd y tîm ymchwil ddata o Astudiaeth Cyfleoedd Ieuenctid METRO, i ddadansoddi profiadau 3,275 o bobol LHD ifanc rhwng 16 a 25 oed.
Mae canlyniadau’r ymchwil yn dangos fod:
- 13.6% o’r sampl wedi trio cyflawni hunanladdiad;
- 45.2% wedi meddwl am hunanladdiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
- a 9.5% yn dweud y byddai trio laldd eu hunain yn “debygol” yn y dyfodol.
“Mae ein hymchwil yn dangos bod ystod eang o brofiadau stigma a gwahaniaethu yn gysylltiedig â mwy o hunanladdiad mewn ieuenctid LHD,” meddai Dan Baker, a fydd yn cyflwyno’r canlyniadau yng Nghaerdydd ar ran y tim ymchwil.
“Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda phobol ifanc LHD asesu a mynd i’r afael ag effeithiau stigma LHD a phrofiadau o erledigaeth, yn ogystal â rhaglenni atal hunanladdiad a pholisïau er mwyn herio bwlio hefyd.”