Mae dyfodol is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts yn aneglur ar hyn o bryd, yn dilyn penodi Ryan Giggs yn rheolwr.
Dywedodd y rheolwr newydd wrth y wasg yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwg nad yw ei staff cynorthwyol yn eu lle eto, a bod “trafodaeth i’w chael dros y dyddiau i ddod”.
Dywedodd ei fod yn barod i ystyried “hyfforddwyr o Gymru a thu hwnt” i fod yn rhan o’i staff.
Ychwanegodd fod ganddo “nifer o syniadau” ynghylch pwy fyddai’n ei gynorthwyo, ac y byddai’n “chwilio am y dyn cywir ar gyfer y swydd”.
Mae lle i gredu bod ei gyn gyd-chwaraewr ym Man U, Paul Scholes ymhlith y rhai sy’n cael eu hystyried.
Wrth ganmol Osian Roberts, dywedodd: “Mae’r hyn mae Osh wedi’i wneud dros bêl-droed yng Nghymru ac yn ei rôl fel cyfarwyddwr technegol… mae yna drafodaeth i’w chael yn sicr.”
‘Angerdd ac ymroddiad’
Fel chwaraewr, enillodd Ryan Giggs 64 o gapiau dros Gymru, ond roedd ganddo enw drwg am dynnu’n ôl o gemau cyfeillgar yn ystod ei yrfa rhwng 1991 a 2007.
Ond yn ôl Giggs y rheolwr, fydd y cefnogwyr ddim yn poeni am hynny os daw llwyddiant ar y cae.
“Cael arwain fy ngwlad yw moment fwyaf balch fy ngyrfa.
“Dim ond fy mod i’n ennill gemau, fydd y cwestiynau hynny ddim yn codi,” meddai.
“Dw i ddim ar wefannau cymdeithasol am yr union reswm yma. Dw i’n gwybod y daw’r feirniadaeth a’r ffordd i dawelu hynny yw drwy ennill gemau.
“Dyna ryfeddod y byd pêl-droed, mae gan bawb ei farn.”