Fe fydd Caffi Angau yn agor ei ddrysau am y tro cynta’ yng Nghaernarfon ddiwedd y mis – a’r bwriad ydi rhoi cyfle i bobol rannu syniadau, profiadau, pryderon a gobeithion am farwolaeth.
Ac mae’r wraig a fydd yn arwain y sesiynau wythnosol yng nghanolfan gelfyddydau Galeri, yn dweud ein bod fel cymdeithas “wedi ymbellhau oddi wrth farwolaeth” nes bod angen “newid y naratif ac anrhydeddu’r broses” o farw, yn ôl Bet Huws.
“Yn blentyn, daeth fy nain, ac yna fy hen fodryb, atom i dreulio diwedd eu hoes,” meddai wrth golwg360. “Bu’r gofal a chariad a roddwyd iddynt gan anwyliaid yn ddylanwad cryf arna’ i.
“Dw i wedi fy hyfforddi fel cwnselydd galar ac fel bydwraig yr enaid er mwyn dysgu sut i fod y gorau y galla’ i mewn sefyllfaoedd yn ymwneud ag angau a diwedd oes.
“Dydi’r wybodaeth yma ddim yn cael ei rhannu yn ein cymunedau fel ers talwm,” meddai wedyn.
Mudiad byd-eang
“Mae ‘Death Cafe’ yn fudiad sy’n bodoli ers tro i godi ymwybyddiaeth am angau drwy greu gofod cyfeillgar a diogel i drafod yr un peth sy’n effeithio pob un ohonom, dros baned a chacen,” meddai Bet Huws.
“Mae yna gred eich bod yn byw bywyd llawnach os ydych yn ymwybodol o’i derfyn, ac mae yna gryn ddiddordeb wedi’i fynegi yn y Caffi wrth i mi sgwrsio â phobol.”