Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Renault Clio a thractor ar yr A483 rhwng Cilmeri a Llanwrtyd.
Cafodd gyrrwr y car anafiadau difrifol a bu farw.
Roedd y ffordd ynghau nos Sul wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.
Bydd yr heddlu’n darparu gwybodaeth am y ffyrdd o gwmpas yr ardal ar eu gwefannau cymdeithasol.