Fe fydd Prif Gwnstabl newydd Heddlu De Cymru yn dechrau ar ei swydd heddiw.

Mae Matt Jukes yn olynu Peter Vaughan, sydd wedi ymddeol, fel arweinydd heddlu mwyaf Cymru.

Wrth ddechrau ar ei swydd dywedodd Matt Jukes eu bod yn wynebu “heriau” ond ei fod yn “benderfynol o barhau gyda’n cynnydd i atal trosedd a diogelu ein cymunedau.”

Ychwanegodd: “Mae’r heriau sy’n wynebu’r heddlu’r dyddiau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni newid, datblygu a buddsoddi mewn meysydd fel trosedd ddigidol, o ran troseddau llygredd a throseddau rhyw ar-lein ond hefyd o ran profiadau fel poenydio, bwlio a chamdriniaeth sydd bellach ag elfen ddigidol.”

Fe fydd Heddlu De Cymru hefyd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gadw cymunedau’n ddiogel, meddai.

Mae Matt Jukes wedi penodi Richard Lewis fel Dirprwy Brif Gwnstabl yr heddlu.

Cafodd Matt Jukes ei anrhydeddu a Medal Heddlu‘r Frenhines (QPM) yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.