Mae disgwyl i Storm Dylan daro rhannau helaeth o wledydd Prydain dros y dyddiau nesaf, ac fe fydd glaw trwm yn ne-ddwyrain Cymru.
Fe allai Gogledd Iwerddon a’r Alban wynebu gwyntoedd cryfion o hyd at 80 milltir yr awr, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai beryglu bywydau.
Roedd eira, glaw a stormydd ar draws rhannau helaeth o wledydd Prydain ddydd Gwener.
Ond mae disgwyl iddi fod yn fwynach yn rhannau deheuol gwledydd Prydain, a thywydd rhewllyd mewn ardaloedd gogleddol.
Mae rhybudd melyn i Ogledd Iwerddon a’r Alban ddydd Sul wrth i wyntoedd gyflymu ar draws y ddwy wlad.
Bydd y rhybudd am law trwm yn ne-ddwyrain Cymru mewn grym o 6 o’r gloch heno tan 9 o’r gloch fore Sul.
Fe allai hyd at fodfedd o law daro rhai ardaloedd, ac fe allai hynny achosi llifogydd, ond mae disgwyl tywydd gwell i ddathlu’r Flwyddyn Newydd erbyn nos Sul.