Ar ôl un o nosweithiau oeraf y flwyddyn, gyda’r tymheredd yn gostwng i minws 12.3C yn Ucheldiroedd yr Alban, daw rhybuddion am ragor o dywydd garw mewn rhannau helaeth o wledydd Prydain heddiw.

Mae rhybudd melyn o wyntoedd cryfion mewn grym yn ne Cymru a rhannau helaeth o dde Lloegr, rhybudd oren am eira yng ngogledd Lloegr, a rhybuddion melyn am rew yn y rhan fwyaf o weddill Lloegr ac yn yr Alban.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod de Cymru’n wyneb “cawodydd cryf gyda siawns o genllysg a tharanau” yn ystod y dydd.

“Mae gwyntoedd o 45 i 50 milltir yr awr yn debygol o gyd-fynd â’r cawodydd hyn, a gallant godi i 60 a 70 milltir yr awr ar adegau yn y lleoliadau arfordirol mwyaf agored,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

Ychwanegodd ei bod yn debygol o fod yn anodd teithio lle bynnag y mae’r rhybuddion mewn grym.

Mae disgwyl hyd at 15cm o eira ar dir uwch yng ngogledd Lloegr.