Mae elusen anifeiliaid wedi apelio am wybodaeth wedi i fochdew gael ei ddarganfod ar ei ben ei hun ar ochr ffordd yn Wrecsam.

Cafodd y bochdew gwyn ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar Stryd y Capel am 4.15 ar fore Mawrth yr wythnos hon.

Roedd mewn “cawell drud” ac wedi ei adael dan “amodau hynod o oer” yn ôl elusen anifeiliaid yr RSPCA, sydd wedi bedyddio’r bochdew yn ‘Flake’.

Cafodd ei achub gan swyddogion heddlu a bellach mae’r creadur yng Nghanolfan Anifeiliaid Bryn-Y-Maen yr RSPCA ym Mae Colwyn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r elusen trwy alw 0300 123 8018.