Mae cic-focsiwr o Gasnewydd wnaeth geisio llofruddio ei gariad wedi cael ei garcharu am oes.

Gwnaeth Dennis Ross, 33, guro a chrogi ei gariad Sian Davies dros sawl diwrnod ym mis Gorffennaf, yn ei fflat ym mhentref y Tŷ-du.

Roedd yr ymosodiad mor ddifrifol nes bod Sian Davies wedi ei rhoi mewn coma, a bu’n rhaid iddi ddysgu cerdded eto.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd y bu’n rhaid i’r heddlu dorri mewn i’r fflat, ar ôl derbyn adroddiad am yr ymosodiad.

Yno gwnaethon nhw ddod o hyd i Sian Davies yn gorwedd ar wely gyda sawl anaf – doedd hi ddim yn medru agor ei llygaid na siarad.

Roedd eu hasennau wedi eu torri, roedd ei hafu wedi ei anafu, ac roedd ei golwg wedi cael ei heffeithio. Treuliodd ddau fis yn yr ysbyty.

Bydd yn rhaid i Dennis Ross dreulio o leiaf saith blynedd a 140 diwrnod dan glo.