Mae S4C yn darlledu gornestau bocsio yn fyw am y tro cyntaf erioed heno.

Bydd y Gymraes 26 oed, Ashley Brace, o Lyn Ebwy yn brwydro Melania Sorrocoche o Gatalwnia am y Bencampwriaeth Pwysau Bantam EBU.

Dyma fydd prif ornest y noson ym Merthyr wrth i’r ddwy ymladd am y teitl Ewropeaidd nad oes yr un ferch o wledydd Prydain wedi’i ennill erioed o’r blaen.

Bydd S4C hefyd yn darlledu gornest Gavin Gwynne a Henry James sy’n brwydro am bencampwriaeth pwysau ysgafn a Nathan Thorley a Jermaine Asare, wrth i’r ddau fynd benben am y gwregys pwysau uwch trwm.

Mae rhaglen heno yn cychwyn am 9.30 heno.

Yr actor Rhys ap Wiliam fydd yn arwain tîm cyflwyno Bocsio Byw, gyda Gareth Roberts yn sylwebu a’r bocsiwr proffesiynol Zack Davies yn dadansoddi.

“Safon bocsio merched yn codi”

Bydd y cyn-bencampwr byd, Enzo Maccarinelli, yn rhoi sylwebaeth Saesneg drwy’r gwasanaeth botwm coch.

“Mae Ashley Brace yn focsiwr da ac yn edrych yn gystadleuol iawn,” meddai am y brif ornest.

“Katie Taylor a Nicola Adams yw rhai o’r enwau mawr, a dyna yw’r nod i rywun fel Ashley – y gobaith yw y bydd hi’n cyrraedd y lefel yna a byddai ennill ym Merthyr yn hwb anferthol iddi.

“Mae safon bocsio merched yn codi ac yn mynd yn fwy proffesiynol, a gobeithio fe gawn weld mwy o ornestau cystadleuol a chyffrous yn y dyfodol.”