Mae angen sefydlu canolfan llefrith ar fron yng Nghymru fel bod babanod sâl yn medru cael gafael ar lefrith yn gyflymach, yn ôl arbenigwr.

Yn Lloegr mae llefrith o’r fron yn cael ei gadw mewn banciau arbenigol, ac yn cael ei ddarparu i fabanod sâl neu rai sydd wedi eu geni’n rhy gynnar, a phan nad yw llefrith eu mamau ar gael.

Ond gan nad oes gan Gymru fanc llefrith o’r fron, mae ysbytai yn ddibynnol ar dywyswyr arbenigol i gludo llefrith y fron o ganolfannau yng Nghaer a Birmingham.

Yn ôl Jackie Hughes o Fanc Llefrith Caer, mae cludo llaeth i Gymru yn medru bod yn heriol ac felly mae hi wedi galw am sefydlu canolfan yng Nghymru i hwyluso’r sefyllfa.

“Hynod o werthfawr”

“Byddai cael canolfan â llefrith sydd wedi ei baratoi o flaen llaw yn hynod o werthfawr oherwydd y byddai’n gwneud hi’n haws cael gafael arno,” meddai Jackie Hughes.

“Byddai hyn yn galonogol i ysbytai oherwydd y byddan nhw’n gallu cael gafael arno yn syth. Mi fyddai hyn o fudd i’r babanod.”

Cymru yw’r unig un o wledydd Prydain sydd heb fanc llefrith o’r fron.