Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd colegau addysg bellach Cymru yn rhan o gylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y dyfodol.
Daw hyn yn dilyn adolygiad yn gynharach eleni yn nodi y byddai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud “cyfraniad allweddol” i ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg colegau addysg bellach.
“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i ddatblygu cyfleoedd i bob dysgwr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog,” meddai Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg gan gyfeirio at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Rwy’n falch y bydd y Coleg yn gallu gweithredu ar yr argymhellion hyn a’i fod eisoes mewn cysylltiad â’r sector ôl-16 ac yn datblygu ei weithgareddau ar gyfer y dyfodol.”
Mae disgwyl i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gydweithio â Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i greu cynllun gweithredu ffurfiol i ddatblygu darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg.
“Adnoddau teg”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r penderfyniad ond meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg y mudiad, “ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heb i’r llywodraeth roi i’r Coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni’r gwaith.”
Ychwanegodd: “Yn lle aros am flynyddoedd i sefydlu’r corff newydd TERCW a threfn newydd integredig ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru, bydd y gwaith o integreiddio addysg cyfrwng Cymraeg yn cychwyn yn syth dan arweiniad y Coleg Cymraeg.
“Golygir y bydd addysg Gymraeg ar flaen y datblygiadau cyffrous newydd ar gyfer addysg ôl-16 yn lle llusgo peth amser ar ôl. Yn wir, y sector addysg Gymraeg fydd y cynllun peilot ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru, ac felly mae’n hollbwysig bod y llywodraeth yn dyrannu’r adnoddau angenrheidiol i’r Coleg i sicrhau llwyddiant y fenter.”
“Pwysig”
Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi croesawu penderfyniad y Llywodraeth i ymestyn gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector addysg bellach.
Dywed y mudiad eu bod wedi dadlau pwysigrwydd y maes hwn mewn perthynas â chefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Dywedodd Heini Gruffydd, Cadeirydd Dyfodol:
“ Credwn fod hwn yn benderfyniad pwysig, ac yn un i’w groesawu’n gynnes; yn enwedig gan mai siomedig iawn fu’r ddarpariaeth o safbwynt defnydd a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gorffennol.
“Edrychwn ymlaen at weld y sector hwn yn datblygu dan ddylanwad y Coleg, ac yn cyfrannu at y gwaith angenrheidiol o Gymreigio’r gweithle a’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.”