Mae’r ferch o Geredigion ddaeth i’r brig yng nghyfres The Apprentice y llynedd wedi cael gorchymyn i dynnu nifer o’i chynnyrch oddi ar y silffoedd.

Mae Alana Spencer a’i chwmni cacennau – Ridiculously Rich – bellach yn galw cynnyrch yn eu hôl am nad yw wedi rhestru alergenau’n gywir ar y cynnyrch.

“Mae Ridiculously Rich gan Alana yn galw cacennau yn eu hôl oherwydd bod rhai alergenau heb gael eu rhestru ac eraill heb gael eu datgan yn gywir,” meddai llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

“Golyga hyn fod y cynnyrch yn risg posib i iechyd unrhyw un sydd ag alergedd i soya, wyau, cnau a/neu alergedd neu anoddefgarwch i wenith, barlys a cheirch (glwten) ac/ neu sensitifrwydd i sylffitau.”

Mi ddaeth Alana Spencer o Aberystwyth i’r brig yng nghyfres ‘The Apprentice’ yn 2016 gan arwain at fuddsoddiad o £250,000 yn ei busnes gan Alan Sugar.