Mae eira a rhew ledled Cymru eisoes yn creu trafferth ar y ffyrdd, gyda sawl ffordd wedi’u cau.
Mae adroddiadau bod dwy lori wedi plygu yn eu hanner ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd, gyda’r ffordd ar gau rhwng Dowlais a’r Fenni.
Er i lawer o gynghorau weithio dros nos yn graeanu ffyrdd, mae’n dal i fod yn llithrig mewn mannau ac adroddiadau o eira cymharol drwm yn y gogledd-ddwyrain a mannau llithrig yn y canolbarna’r gollewin.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae car wedi mynd i mewn i wal yn Llanybydder o achos y tywydd llithrig – un o nifer o adroddiadau am fân ddamweiniau.
Disgwyl rhagor
Mae disgwyl diwrnod oer a rhewllyd eto heddiw a chawodydd o eira ar rannau helaeth o’r wlad.
Ac mae eira mawr i’w ddisgwyl ar fryniau yn y Gogledd gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal os ydyn nhw’n mentro allan.
Mae’n debygol y bydd eirlaw yn parhau eto dros nos ac eira ar dir uchel.