Er i archeolegwyr fethu a darganfod mynwent Oesoedd Tywyll yn Ynys Môn mae un arbenigwr yn mynnu ei bod yn dal yn awyddus i “ddatrys y dirgelwch”.
Mae archeolegwyr yng ngogledd Cymru wedi bod mewn penbleth ers darganfod cofnod cylchgrawn o’r 19eg ganrif sy’n sôn am grŵp o weithwyr yn darganfod esgyrn a cherrig beddi ger Llangefni.
Ar un adeg, roedd arbenigwyr yn ffyddiog mai yn Lôn Fron yr oedd y fynwent, a chafodd cloddiad archeolegol ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd dros yr haf y llynedd.
Ond, wedi blwyddyn o astudio’r hyn a gafodd ei ddarganfod yno, mae archeolegwyr bellach yn derbyn nad mynwent yw’r safle – a bod safle’r fynwent yn dal i fod yn ddirgelwch.
Y fynwent
Yr archeolegydd, Jane Kenney, fu’n gyfrifol am yr astudiaeth hyd yn hyn, ac er ei bod yn siomedig mae hi’n mynnu nad oedd y cloddio “yn ofer” ac yn ffyddiog bod y safle’n bodoli.
“Does dim rheswm i ni amau [adroddiad y cylchgrawn],” meddai wrth golwg360. “Dydan ni jest heb ddod o hyd i’r union safle yr oedden nhw’n cyfeirio ato. Mae’n debygol bod y fynwent o hyd yna rhywle – Heblaw bod yr holl beth wedi cael ei ddinistrio [gan weithwyr].
“Bu pobol yn byw a’n defnyddio’r ardal trwy sawl cyfnod, felly mae llawer o hyd i’w ddarganfod yno. Mae’r fynwent sydd, o bosib, yno o hyd. Rydym wedi gweld olion sy’n awgrymu anheddiad o’r Oesoedd Tywyll. Efallai bod mwy o hynna yn yr ardal.
“Mae’n rhaid cynnal cloddiadau yn yr ardaloedd yma, neu fel arall wnawn ni ddarganfod dim byd.”