Bu cannoedd o alarwyr, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn angladd yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant.
Cafwyd hyd i’r gwleidydd 49 wedi iddo grogi ei hun yn ei gartref yng Nghei Conna ar 7 Tachwedd, pedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’i rôl fel Ysgrifennydd Plant a Chymunedau yng nghabinet Llywodraeth Cymru.
Cafodd yr angladd, oedd yn “ddathliad” o fywyd y gwleidydd ei gynnal yn Eglwys Sant Marc yn y dref yn Sir y Fflint ar ganol dydd heddiw. Bu’n rhaid i lawer o bobol sefyll y tu allan am fod yr eglwys yn llawn.
Fe wisgodd teulu a ffrindiau Carl Sargeant, gan gynnwys ei wraig Bernie a’i blant Lucy a Jack, liwiau llachar i gofio amdano.
“Cwestiynau i’w hateb”
Wrth siarad yn yr angladd, siaradodd ei ffrind, Daran Hill, am garedigrwydd y gwleidydd.
“Mae’n drueni na wnaeth bawb ddangos yr un caredigrwydd a ddangosodd e’ i eraill,” meddai.
“Mae pobol wedi dod at ei gilydd i ddod o hyd i gariad a chryfder gan ei gilydd mewn cyfnod o alar, anobaith a dicter.
“Mae ein cariad a’n parch tuag at Carl wedi’n dangos ar ein gorau. Mae pobol eraill sydd ddim yn yr ystafell hon sydd ddim wedi cael eu dangos yn y ffordd yna.
“Mae’r cwestiynau y byddan nhw’n gorfod eu hateb – ac maen nhw’n ‘nhw’ – ar gyfer amser a lle gwahanol.”
Doedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddim yno ar ôl i’r teulu ofyn iddo gadw draw.
“Cyfnod anodd i bawb”
Ar ôl yr angladd, dywedodd Jeremy Corbyn: “Roedd yn fraint dathlu bywyd Carl. Roedd yn wasanaeth hyfryd, gyda theyrngedau a dewis hyfryd o gerddoriaeth gan ei deulu.”
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Tami, ei fod wedi bod yn “gyfnod anodd i bawb.”
“Mae nifer y bobol sydd yma yn dangos yr hyn roedd Carl yn ei olygu a’r hyn wnaeth e.”
Ar ddiwedd y gwasanaeth, fe wnaeth pawb ddechrau canu hoff gân carîoci Carl Sargeant, ‘Dirty Old Town’ gan The Pogues, a gafodd ei chwarae wrth i’r arch gael ei chludo o’r eglwys.
Mae carîoci yn dilyn yr angladd yng Nghlwb Llafur Cei Conna.