Mae dyn oedrannus wedi marw ar ôl mynd yn sownd yn y mecanwaith mewn ffatri ailgylchu yn y gogledd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Recycle Cymru ar stâd ddiwydiannol Bae Cinmel ger y Rhyl am tua 7.30 neithiwr.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Mae ymchwiliadau yn parhau ac mae’r Awdurdodau Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon dau gerbyd at y safle ailgylchu.