Pobol sy’n yfed symiau niweidiol o alcohol yw’r rhai mwyaf tebygol i deimlo’r effaith o gyflwyno isafswm ar bris alcohol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried mesur a fyddai’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i werthu alcohol am lai na 50c yr uned.

Ond, yn ôl ymchwil diweddar, pobol sy’n yfed ‘symiau niweidiol’ fyddai’n gweld yr effaith fwyaf am eu bod yn prynu bron hanner (47%) o’u halcohol am lai na 50c yr uned.

“Cam mawr a chadarnhaol”

Yn ôl Clive Wolfendale, Prif Weithredwr mudiad CAIS sy’n cynnig cymorth i bobol sy’n dioddef o orddibyniaeth yng Nghymru, mae’r adroddiad hwn i’w groesawu.

“Mae gwir gost alcohol rhad yn cael ei fesur gan y cannoedd o fywydau sy’n cael eu colli’n ddiangen drwy glefydau’r afu sy’n gysylltiedig ag alcohol, trais a damweiniau, a llawer mwy sydd wedi’i diffeithio gan faterion iechyd cyson, dibyniaeth a chwalfa deuluol,” meddai.

Mae’n dweud fod y mesur yn golygu fod Cymru’n “gwneud rhywbeth o ddifrif” am y “broblem genedlaethol.”

“Mae llawer mwy i’w wneud, ond mae’r cynnig hwn yn gam mawr a chadarnhaol wrth inni edrych ar sut i newid ein diwylliant yfed yng Nghymru, ac i helpu miloedd o bobol yng nghenedlaethau’r dyfodol i fyw bywydau gwell, hirach a hapusach.”

Achub bywydau

Mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu gan ymchwilwyr Prifysgol Sheffield ac yn ychwanegu at ymchwil a gafodd ei gynnal yn 2014.

Yn ôl yr ymchwil gallai’r cynllun o isafswm pris alcohol atal 66 o farwolaethau a 1,281 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn.

Mae hefyd yn dangos na fyddai’n effeithio gymaint â hynny ar ‘yfwyr cymedrol’ fyddai ond yn gwario £8.30 yn fwy y flwyddyn ar alcohol am fod llai na chwarter ohonyn nhw’n prynu alcohol am bris llai na 50c yr uned.

“Mae’r ymchwil hwn yn dystiolaeth bellach fod cysylltiad clir iawn ac uniongyrchol rhwng lefelau gor-yfed ac argaeledd alcohol rhad,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru.

“Mae modd osgoi pob marwolaeth sy’n gysylltiedig ag alcohol – felly drwy gyflwyno’r mesur hwn, byddwn yn achub bywydau.”