Mae dyn o Gaerdydd wedi’i garcharu am oes am lofruddio perchennog bwyty o’r Alban bron i ddeugain mlynedd yn ôl.

Yn yr Uchel Lys yn Glasgow heddiw, mi gafodd Riasat Khan ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 16 mlynedd dan glo am drywanu Kazi Ahmad yn Aberdeen yn 1978.

Clywodd y llys ei fod wedi trywanu Kazi Ahmad saith gwaith mewn fflat yn y ddinas.

Bu Riasat Khan, sydd bellach yn 63 oed, yn byw am gyfnod wedi hynny ym Mhacistan ac fe ddaeth yn ôl i Brydain yn ystod yr 1980au gan fyw yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd.

Mi gafodd ei arestio dan warant y llynedd ym maes awyr Birmingham, ac wrth ei d edfrydu heddiw mi gyfeiriodd y barnwr at waith fforensig “arbennig” sydd wedi “goroesi’r blynyddoedd.”