Mae’n bosib y gallai eira ddisgyn ar dir uchel Cymru dros nos heno.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira ar gyfer Cymru gyfan heno, ac mae disgwyl iddo glirio erbyn bore fory.

Gallai glaw, eirlaw ac eira symud o’r gogledd orllewin i lawr hyd at y de ddwyrain yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n bosib y bydd rhwng 1 a 2cm o eira yn disgyn ar diroedd uwch na 200m uwchlaw lefel y môr, a rhwng 2 a 5cm o eira’n disgyn ar diroedd uwch na 300m.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal wrth deithio a chaniatáu digon o amser i’r siwrnai.