Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos tân ym mhentref Llanrhystud yng Ngheredigion yn ystod oriau mân y bore.

Mi gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i hen safle cwmni bysiau Lewis Coaches am 4.08 y bore.

Yn ôl y gwasanaeth mae difrod wedi’i wneud i hen weithdai’r cwmni, ond does dim adroddiadau am anafiadau.

Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys.

Mae cwmni Lewis Coaches wedi bod ynghau ers mis Awst y llynedd ac ar un adeg nhw oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth 701 rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.