Mae disgwyl i bobol gwledydd Prydain wario bron i £8 biliwn ar fargeinion dros y pedwar diwrnod nesaf, a hithau’n gyfnod bargeinion sy’n cael ei alw yn Black Friday.
Fe fydd pobol yn gwario tua £2.6 biliwn heddiw – 8% yn fwy na’r llynedd – a £7.8 biliwn tros bedwar diwrnod o wario gwyllt, sy’n cynnwys Dydd Llun Seibr.
Ond yn ôl Steven Madeley, rheolwr Canolfan Siopa Dewi Sant Caerdydd, mae llai o bobol yn mynd yn wyllt wrth hela bargeinion yn y brifddinas.
“Arferiad Americanaidd oedd Gwener y Gwario, ac mae wedi dod yn boblogaidd iawn yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld [y diwrnod] yn newid i gyfnod hirach, sy’n galluogi siopwyr i fwynhau disgowntiau… am hyd at wythnos.
“Ar y diwrnod ei hun, dydyn ni ddim yn gweld pobol yn sgrialu am y bargeinion gorau rhagor, ond penderfyniadau bwriadol ar brynu eitemau…
“Mae wastad yn amser poblogaidd o’r flwyddyn felly bydd gan y ganolfan deimlad Nadoligaidd hyfryd.”
Geid Gwener Gwario
Yn ôl gwefan cyngor shopa Which?, i wneud y mwyaf o’r bargeinion ar ddydd Gwener y Gwario, mae angen dilyn y canllawiau yma:
- Mae paratoi yn allweddol
- Gwnewch ymchwil ymlaen llaw
- Gwiriwch bolisi dychwelyd pob siop
- Gwnewch restr o’r cwmnïau sy’n gwerthu’r un cynnyrch
- Gwiriwch os yw cwmnïau yn fodlon bod yn gystadleuol â’u prisiau
- Dechreuwch siopa yn gynnar.