Mae ffilm Gymraeg wedi ennill un o brif wobrau gŵyl ffilmiau Caer-wynt yn ddiweddar, sef y Ffilm Fer Brydeinig orau.

Mae Helfa’r Heli wedi’i chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Geraint Huw Reynolds sy’n gweithio’n olygydd llawn amser i gwmni Telesgop yn Abertawe.

Yn ymddangos ynddi mae’r actorion Sharon Morgan, Alun Elidyr, Rhys Downing, Saran Morgan, Ioan Hefin, David Rees a Dei Enos.

Ac mae’r ffilm yn addasiad o stori fer gan wraig y golygydd, sef Sarah Reynolds, a enillodd wobr Stori Fer Rhys Davies am y fersiwn o Catch of the Day yn 2015.

Cyfarfod yn y môr

Mae’r ffilm wedi’i ffilmio mewn cwt bad achub yn Nhrefdraeth yng ngogledd Sir Benfro ac ar draeth Broadhaven South.

Mae’r stori’n troi o gwmpas y berthynas rhwng dau berson sydd wedi “cyfarfod yn y môr” pan oedden nhw’n ifanc gyda’r ddau’n heneiddio ac yn profi ôl-fflachiadau.

Yn ogystal â’r wobr hon, mae Geraint Huw Reynolds wedi ennill nifer o wobrau yng Ngŵyl Ryngwladol ‘Feel the Reel’ a gŵyl Direct Monthly On Line Film Festival.