Mae protocol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru heddiw sy’n golygu na fydd modd bellach i Lywodraeth Prydain ymyrryd mewn materion sy’n ymwneud â dŵr Cymru.

Ar hyn o bryd, mae gan Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, Michael Gove yr hawl i ymyrryd er mwyn diddymu deddfwriaeth y Cynulliad neu i gyfyngu ar weithgarwch y Cynulliad pe bai’n debygol o gael “effaith negyddol ar adnoddau, cyflenwadau neu ansawdd dŵr yn Lloegr”.

Ond does gan Lywodraeth Cymru ddim hawl i wneud hynny o safbwynt Lloegr.

Bydd y protocol newydd yn dileu’r drefn honno y flwyddyn nesaf, gan arwain at fwy o gydweithio o’r naill ochr a’r llall, a llai o effaith negyddol ar ei gilydd trwy eu gweithredoedd.

Bydd y Cynulliad a Llywodraeth Prydain yn cytuno ar y protocol cyn y bydd yn dod i rym.

‘Anghydbwysedd’

Ar drothwy lansio’r protocol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae cyflwyno’r protocol hwn yn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd yn y setliad datganoli a allai, yn ymarferol, olygu bod Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymyrryd mewn materion sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

“Dw i’n falch o’r ffordd adeiladol a phositif y mae’r ddwy weinyddiaeth wedi mynd i’r afael â drafftio a gweithredu cytundeb sy’n golygu bod defnyddwyr dŵr ar y ddwy ochr i’r ffin yn cael eu diogelu, sy’n bwysig iawn.”