Mae pedwar o bobol wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A483 ger Arddlîn ym Mhowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 1.30pm.
Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan A458 Buttington Cross a’r B4392.
Mae’r ambiwlans awyr yn ymdrin â’r digwyddiad.