Mae’r gath wyllt a oedd wedi ffoi o sŵ yn y Borth, ger Aberystwyth, wedi cael ei difa.
Fe wnaed hyn ar orchymyn Cyngor Ceredigion wedi i’r gath gael ei gweld o gwmpas lle’r oedd pobl yn byw.
Roedd y lynx Ewrasaidd fenywaidd flwydd a hanner oed, a oedd tua dwywaith cymaint â chath ddof, wedi bod ar goll o’r sŵ ers 29 Hydref.
Mae penderfyniad y Cyngor wedi cythruddo perchnogion y sw, Borth Wild Animal Kingdom, sy’n mynnu nad oedd yn beryglus i bobl.
Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook dywed y sw:
“Nid ein penderfyniad ni oedd ei lladd a wnaethon ni ddim cytuno o gwbl na chymryd rhan yn y weithred o saethu’n cath ifanc. Rydym wedi torri’n calonnau ac wedi’n cythruddo fod hyn wedi digwydd.”
‘Perygl’
Roedd Cyngor Ceredigion wedi penderfynu difa’r anifail gwyllt gan eu bod o’r farn bod y perygl i’r cyhoedd wedi cynyddu.
“Cafwyd cyngor ychwanegol brynhawn dydd Gwener, 10 Tachwedd, gan filfeddyg arbenigol fod y perygl i les y cyhoedd wedi codi berygl cymedrol i berygl llym yn sgil methiant parhaus y sŵ i ddal i gath,” meddai’r Cynghorydd Ceredig Davies ar Facebook.
“Roedd diogelwch y cyhoedd yn holl bwysig, ac felly unwaith roedd y gath wedi crwydro i ardal boblog o’r gymuned roedd angen gweithredu ar frys.”