Mae’r dafarn enwog a’i waliau sinc yng ngogledd Sir Benfro yn agor ar ei newydd wedd heddiw.

Mae Tafarn Sinc bellach yn eiddo i’r gymuned wedi i griw o bobol leol lwyddo i godi mwy na £300,000 rhyngddyn nhw i brynu’r dafarn sydd wedi bod ar y farchnad ers mis Ionawr.

Am y tro mi fydd dynes leol, Lonwen Thomas, yn gyfrifol am redeg y dafarn a hithau wedi rhedeg tafarn ym mhentref Bancyfelin, yng ngorllewin Sir Gâr.

Ond mae pwyllgor menter Tafarn Sinc wedi hysbysebu am reolwyr newydd i reoli’r dafarn ym mhentref Rhosybwlch.

‘Maer answyddogol’

Mi fydd Tafarn Sinc yn agor am 4yh heddiw gyda’r peint cyntaf yn cael ei dynnu i “Faer answyddogol Rhosybwlch,” yn ôl Hefin Wyn, cadeirydd y fenter.

Mae’n esbonio fod Ryan John, 83 oed, o’r pentref wedi bod yn gyfrifol am daenu’r blawd llif ar lawr y dafarn am gyfnod o bum mlynedd ar hugain.

“Mae’n nabod pawb, yn gwybod hanes yr ardal, ac ry’n ni am ei anrhydeddu,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360.

‘Naws wledig’

Ym mis Ionawr fe ddywedodd y cyn-berchennog, Hafwen Davies, ei bod am weld y busnes yn parhau “fel tafarn Gymreig.”

Ac mae Hefin Wyn yn rhyfeddu at sut mae’r gymuned wedi “codi arian mawr mewn amser byr.”

“Mae’n anodd inni amgyffred y peth ein hunain, ond mae’n amlwg fod y gymuned wedi bod yn barod i fuddsoddi arian ac ewyllys da mewn cadw canolfan sy’n cael ei hystyried yn ganolfan gymunedol ac yn ganolfan Gymreig ar agor,” meddai.

Mae hefyd wedi diolch i bobol nad sy’n byw yn yr ardal am eu cyfraniadau gan gynnwys yr actor Rhys Ifans gan ddweud fod “naws wledig ar holl dwmbwriach amaethyddol sy’n hongian ar y wal a’r nenfydau” yn rhywbeth sy’n apelio at bobol. “Gan bwyll bach mae mynd ymhell,” meddai wedyn.