Mae Llafur Cymru wedi cytuno o’r newydd ar y rheolau ar gyfer ethol arweinwyr a dirprwy arweinwyr y blaid yn y dyfodol.

Daw’r cyhoeddiad ar ddiwedd tri mis o ymgynghoriad ag undebau a mudiadau Llafur, yn ogystal ag aelodau o ganghennau lleol o’r blaid.

Fe bleidleisiodd yr aelodau o blaid cadw’r drefn sydd mewn grym ers 1999, sef un bleidlais i bob aelod mewn unrhyw goleg etholiadol ag iddo tair adran:

  • aelodau llawn y Blaid Lafur;
  • aelodau undebau llafur; ac
  • Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

Fe fydd Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac arweinwyr cynghorau’n gymwys i fod yn ddirprwy arweinydd y blaid.

Fe fydd rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer swydd y dirprwy arweinydd sicrhau enwebiadau gan o leiaf 20% o Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd, ac o leiaf dri enwebiad o blith y Blaid Seneddol a’r Grŵp yn y Cynulliad.

Rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth fod yn Aelod Cynulliad a rhaid iddo/i sicrhau cefnogaeth gan 20% o Aelodau’r Cynulliad – sef chwe phleidlais o blith y Grŵp Cynulliad presennol.

‘Penderfyniadau yng Nghymru sy’n gweithio orau i Gymru’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn “falch” fod Pwyllgor Gwaith Llafur wedi penderfynu “cadw’r system sy’n gweithio cystal i Lafur Cymru ers dechreuadau datganoli”.

 

“Mae Llafur Cymru ar ei gorau a’i mwyaf dewr wrth harneisio cefnogaeth, syniadau a brwdfrydedd pawb sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n delfrydau.

“Mae’r coleg etholiadol wedi ein helpu i wneud hynny, gan dynnu ynghyd yr holl randdeiliaid o fewn ein Plaid a’n gwlad.

“Mae’n gywir ac yn briodol fod gan y bobol hynny sy’n gwneud cymaint i sicrhau bod Llafur Cymru’n ennill yn y blwch pleidleisio ac yn gweithredu yn y senedd yn cael dweud eu dweud ar arweinwyr a dirprwy arweinwyr ein Plaid yn y dyfodol.

“Mae hi ond yn briodol hefyd fod Llafur Cymru’n gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru sy’n gweithio orau i Gymru.”

‘Safbwyntiau angerddol a diffuant’

Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru, Mike Payne fod “safbwyntiau angerddol a diffuant” wedi cael eu mynegi yn ystod ymgynghoriad.

 

“Fel undebwr llafur ac aelod bore oes o’r Blaid Lafur, rwy’n falch fod y Pwyllgor Gwaith Cymreig – sydd yntau’n gyfuniad o gynrychiolwyr ar draws holl deulu Llafur Cymru – wedi penderfynu, o nifer sylweddol, i gynnal y cysylltiad hanesyddol o fewn mudiad Llafur ac undebau llafur Cymru, rhwng undebau llafur, aelodau cysylltiol ac aelodau’r Blaid.”