Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i dad y credir sydd wedi marw ynghyd a nifer o’i blant ar ôl i dân ddifrodi tŷ fferm yn Llangamarch ym Mhowys.

Cafodd David Cuthbertson ei enwi’n lleol a chafodd ei ddisgrifio gan gymdogion fel tad a oedd yn “dotio” ar ei blant.

Fe lwyddodd tri o blant i ddianc o’r tân a ddechreuodd toc wedi hanner nos fore dydd Llun, 30 Hydref.

Mae’r plant, sy’n 13, 12 a 10 oed, yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ond mae’n debyg nad ydyn nhw wedi cael anafiadau sy’n bygwth eu bywydau.

“Nifer wedi marw”

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod “nifer o bobl” wedi marw ond oherwydd y difrod ar y safle fe fydd yn cymryd rhai dyddiau cyn eu bod yn gallu adnabod y rhai sydd wedi marw. Credir bod plant ac oedolion ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Yn ôl un o’r cymdogion Ron Birchall, 73, sy’n byw yn y pentref, fe symudodd David Cuthbertson, y credir oedd yn ei 60au,  i Langamarch tua 15 mlynedd yn ôl.

Ychwanegodd bod y gymuned glos wedi torri eu calonnau o glywed y newyddion.

Mae ymchwiliad i achos y tân yn parhau ac yn cael ei drin fel un “anesboniadwy” ar hyn o bryd.

“Ergyd”

Dywedodd Kirsty Williams,  AC Brycheiniog a Sir Faesyfed: “Mae hyn yn newyddion trychinebus mewn cymuned mor glos.

“Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio a diolch i’r gwasanaethau brys am eu cymorth.”

Ychwanegodd y cynghorydd sir Tim Van-Rees, sy’n cynrychioli’r ardal: “Roeddwn yn adnabod y teulu, nid yn dda, ac roeddwn yn adnabod y tad a nifer o’r plant.

“Roedden nhw’n deulu mawr, ond dwi ddim yn siŵr faint o bobl oedd yn byw yno. Mae’n sioc fawr ac yn ergyd ofnadwy ac efallai ei fod yn beth da ein bod ar hanner tymor ar hyn o bryd oherwydd byddai’r effaith ar ein plant a’n hysgolion wedi bod yn ddifrifol iawn.”

Mae tudalen JustGiving  wedi cael ei sefydlu er mwyn codi arian i’r teulu a hyd yn hyn mae £2,500 wedi cael ei gyfrannu.