Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn parhau i wrthod cefnogi’r Mesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ond fod “cynnydd wedi’i wneud” yn y trafodaethau.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod rhwng Carwyn Jones â Theresa May yn Stryd Downing heddiw lle’r oedden nhw’n trafod materion ynglŷn â Brexit.

Mae Carwyn Jones wedi beirniadu’r Mesur Ymadael a’r Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol gan ei alw’n ymgais ar ran Llywodraeth Prydain i “gipio pwerau.”

“Mae cynnydd nawr yn cael ei wneud wrth sicrhau y bydd cytundeb ar y ffordd ymlaen, dim gosodiad. Ond mae angen i’r cynnydd hwnnw barhau,” meddai Carwyn Jones wrth gyfeirio at y Mesur Ymadael.

“Dydyn ni ddim mewn safle i gefnogi’r mesur eto,” medda wedyn.

Y Farchnad Sengl

O ran y farchnad sengl, mae’n dweud fod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn gwrthod datgelu gormod.

“Yn fy meddwl i does dim angen inni adael yr undeb dollau,” meddai.

“Ni wnaeth neb ddadlau yn y refferendwm Brexit y dylem gael sefyllfa sydd yn fwy anodd i’n busnesau i werthu yn eu marchnad fwyaf.”

“Mae angen i ni wneud yn siŵr fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn osgoi’r sefyllfa yna a fydd yn hunllef inni,” ychwanegodd.

Mi wnaeth bwyso hefyd ar Brif Weinidog Prydain i wneud penderfyniad ynglŷn ag ariannu Morlyn Llanw’r Môr yn Abertawe ac i ddatganoli treth awyrennau i Lywodraeth Cymru.