Fe lwyddodd tri o blant i ddianc ar ôl tân mewn tŷ ym Mhowys ond mae ofnau bod nifer o bobl wedi marw, meddai’r heddlu.
Mae’r plant, sy’n 13, 12 a 10 oed, yn cael triniaeth yn yr ysbyty ond mae’n debyg nad ydyn nhw wedi cael anafiadau sy’n bygwth eu bywydau.
Fe ddechreuodd y tân mewn ffermdy ym mhentref Llangamarch toc wedi hanner nos.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod “nifer o bobl” yn dal ar goll ac oherwydd y difrod ar y safle nid ydyn nhw wedi gallu adnabod y rhai sydd wedi marw hyd yn hyn. Credir bod plant ac oedolion ymhlith y rhai sydd wedi marw.
Mae ymchwilwyr yn archwilio’r safle ac ar hyn o bryd mae’r tân yn cael ei drin fel un “anesboniadwy”.
Dywedodd Kirsty Williams, A Brycheiniog a Sir Faesyfed: “Mae hyn yn newyddion trychinebus mewn cymuned mor glos.
“Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio a diolch i’r gwasanaethau brys am eu cymorth.”