Elfyn Evans yw’r Cymro cyntaf erioed i ennill Rali GB Cymru ar ei domen ei hun.
Fe orffennodd e a’i gyd-yrrwr Daniel Barritt y ras olaf mewn 2:57:06 i gipio’r goron yn Y Drenewydd.
Fe yw’r gyrrwr cyntaf o wledydd Prydain i ennill y ras ers Richard Burns yn 2000, ac mae’n ymuno â chriw dethol o dri gyrrwr arall o wledydd Prydain sydd wedi ei hennill.
Fe hefyd, ar ddydd Gwener, oedd y gyrrwr cyntaf o wledydd Prydain i arwain y ras ers Colin McRae yn 2001.
Sebastien Ogier o Ffrainc sydd wedi cipio Pencampwriaeth y Byd.
‘Diolchgar dros ben’
Ar ôl ei fuddugoliaeth, dywedodd Elfyn Evans: “Dw i’n ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros yr holl flynyddoedd – mae cyrraedd y fan yma wedi cymryd cryn dipyn.
“I’r holl bobol sydd wedi fy nghefnogi ac sydd wedi credu ynof fi – mae hwn i chi!
“Ac mae’r canlyniad hwn yn golygu fy mod i’n awchu am ragor!”