Mae bardd o Bowys yn dweud nad yw wedi cael unrhyw ymateb negyddol i’w alwad ar y Blaid Lafur Gymreig i gefnogi’r syniad o Gymru  annibynnol.

Yn hanesyddol, mae’r Blaid Lafur wedi mynnu bod Cymru yn aros yn rhan o Brydain, ac wedi ymosod ar y syniad o Gymru yn bodoli fel gwlad annibynnol.

Ond ddechrau mis Hydref daeth rhai o aelodau’r Blaid Lafur Gymreig ynghyd yng Nghaerfyrddin i wrando ar y bardd Ben Gwalchmai yn traddodi’r ddarlith ‘Westminster won’t deliver equality – it’s time for Labour to Support Welsh indepedence’.

“Rydan ni yn canolbwyntio ar gynnal trafodaethau [am annibyniaeth i Gymru] yn hytrach na gwthio’r mater, a chynyddu’r gefnogaeth ar lawr gwlad,” meddai Ben Gwalchmai.

“Mae ganddon ni bron i 200 o aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru sy’n cytuno gyda ni… a tydan ni ddim wedi cael unrhyw ymatebion negyddol.

“Mae pobol wedi bod yn barod i drafod y peth, ac mae hynny yn wych. Dyna yn union yr ydan ni am weld.”

Brexit yn galw am annibyniaeth

Ers y fôt Brexit mae Ben Gwalchmai, Llafurwr 32 oed o bentref Arddlîn sydd ar y ffin â Lloegr yng ngogledd Powys, wedi dod i’r casgliad na fydd Cymru “decach” tra bydd y wlad dan reolaeth Llywodraeth Prydain.

“Rydw i o’r farn mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod yn rhyddhau ein hunain o wallgofrwydd San Steffan, ac yna yn cael mandad ynghylch yr amryw benderfyniadau.

“Yn bersonol, rwyf o’r farn y dyle ni fod yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Masnach – a dyna yw polisi’r Blaid Lafur Gymreig.

“Ond nid yw’r Torïaid yn San Steffan eisiau hynny.

“Ac os yw Lloegr yn atal Cymru rhag cael y Farchnad Sengl a’r Undeb Masnach, mae yn rhesymegol i ni fentro ar ein pennau ein hunain.”

Ond beth y rhai sy’n dadlau bod mwyafrif y Cymry wedi cefnogi Brexit ac felly yn hapus i weld grym yn cael ei ganoli yn San Steffan?

“Un o fy mhroblemau mawr gyda’r refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yw na chafodd ei gynnal mewn ffordd gall…

“Roedd yna ddiffyg gofal gyda’r holl beth, ac mae o wir yn arwydd o’r hyn ydy’r Blaid Geidwadol.

“Mae yna ddiffyg gofal difrifol.”

‘Pync, bardd, gwas fferm, Llafurwr’ – portread o Ben Gwalchmai yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.