Fe fydd y gwleidydd sy’n gyfrifol am drafod masnach wedi-Brexit yn dod i Gymru heddiw i drafod gyda’r Llywodraeth a rhai busnesau.
Fe fydd Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Llywodraeth Prydain, Liam Fox, yn cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Y bwriad yw trafod sut y bydd Cymru’n llwyddo i allforio i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd a’r tu allan ar ôl Brexit.
Fe fydd Liam Fox hefyd yn cynnal trafodaethau gydag arweinwyr o’r diwydiant llaeth.
Pwysleisio allforion y tu allan i’r Undeb
Yn y gorffennol, mae Carwyn Jones wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am ddiffyg eglurder am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl Brexit.
Wrth drafod y cyfarfod, mae Llywodraeth Prydain wedi ceisio pwysleisio pa mor bwysig yw gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd o ran allforion Cymru.
Ond mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod bron 60% o allforion Cymru i wledydd yr Undeb – allan o gyfanswm o £15.9 biliwn.
Yr ystadegau
- Mae’r ystadegau’n dangos bod allforion i’r Undeb wedi cynyddu o 15.4% yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mehefin 2017 – cynnydd gwerth £1.27 biliwn.
- Roedd allforion i wledydd y tu allan i’r Undeb wedi cynyddu yn yr un cyfnod hefyd, o 21.2% (gwerth £1.12 biliwn).
- Mae Llywodraeth Prydain hefyd yn dweud bod 11,500 o swyddi wedi cael eu creu neu eu diogelu yng Nghymru yn 2016-17 oherwydd buddsoddi o’r tu allan.