Mae pethau’n edrych yn ddu i’r farchnad swyddi yng Nghymru, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr arolwg gan asiantaeth swyddi Manpower mae mwy o fusnesau’n ystyried diswyddo gweithwyr yng Nghymru nag oedd yn gobeithio eu cyflogi.

“Mae cwmnïau bach a canolig Cymru ar ei hol hi i ranbarthau eraill wrth gyflogi gweithwyr newydd,” meddai rheolwr Manpower yng Nghymru, Andrew Shellard.

“Mae nifer ohonyn nhw’n cyflogi’r isafswm posib a dydyn nhw ddim yn awyddus i gyflogi rhagor.

“Mae’r sector cynhyrchu yng Nghymru yn dioddef hyd yn oed yn fwy nag yng ngogledd Lloegr, a dyw’r sector gyhoeddus ddim yn cyflogi gweithwyr ychwanegol o gwbl.

“Wrth i’r economi arafu ar draws y Deyrnas Unedig, mae cyflogwyr yng Nghymru yn amharod i gyflogi gweithwyr newydd.”

Roedd yr arolwg wedi holi 21,000 o gyflogwyr ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cannoedd yng Nghymru, gan holi a oedden nhw’n ystyried cyflogi rhagor o weithwyr.

Mae’r canlyniadau yn awgrymu fod y cwmnïau sy’n awyddus i gyflogi rhagor o weithwyr yn tueddu i fod yn ne Lloegr, tra bod cwmnïau Cymru a gogledd Lloegr yn diswyddo.

Cwmnïau Gogledd Iwerddon oedd y lleiaf parod i gyflogi rhagor o weithwyr, ac roedd Cymru yn yr ail safle.

Cymru sydd â’r canran uchaf o bobol ddi-waith ar draws y Deyrnas Unedig, sef 8.4%, neu 122,000 o bobol.