David Melding
Mae un o Aelodau Cynulliad amlyca’r Ceidwadwyr wedi galw am fwy o annibyniaeth i’r blaid yng Nghymru ac am newid yr enw.

Yn ôl David Melding, sy’n gyn Gyfarwyddwr Polisi i Blaid Geidwadol Cymru, fe fyddai newid enw’n arf pwysig yn eu brwydr yn erbyn Plaid Cymru.

Mae ei sylwadau’n dilyn galwad debyg gan arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Dinas Abertawe.

‘Tynnu’r gwenwyn’

Ar wefan Wales Home, mae’r AC, sydd hefyd yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad, yn dadlau bod angen newid yr enw er mwyn “tynnu’r gwenwyn” sydd ynghlwm wrth y gair ‘Ceidwadol’.

Er bod cyn arweinydd y Torïaid yng Nghymru, Nick Bourne, wedi gwrthod y syniad eisoes, mae’n adlewyrchu symudiad tebyg o fewn y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yn yr Alban.

Yno, mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr eisiau plaid annibynnol ac mae dadlau tros gynllun Llafur am ragor o ddatganoli mewnol.

Sylwadau David Melding

“Byddai’n ffordd o oresgyn y rhwystr seicolegol sydd gan lawer o bobol o hyd yn erbyn pleidleisio tros y Ceidwadwyr,” meddai David Melding. “R’yn ni’n gwybod o dystiolaeth y polau piniwn bod tua hanner etholwyr Cymru’n dweud na allen nhw fyth bleidleisio tros y Ceidwadwyr.

“Mae’r gwrthwynebiad diwylliannol yma hefyd i’w gael ymhlith pleidiau gwleidyddol a allai, fel arall, fod yn bartneriaid posib mewn clymblaid.”

Mae’r AC tros Ganol De Cymru hefyd yn dadlau tros fwy o lais annibynnol i’r Blaid Geidwadol Gymreig gan ddweud y bydden nhw wedi dadlau yn y gorffennol tros arafu’r broses o ddatgymalu’r diwydiant glo yng Nghymru – un o’r polisïau sy’n dal i gorddi llawer o bobol.

“Yn fwy na dim,” meddai ar y wefan, “mae ar bobol Cymru angen dewis arall hyfyw yn lle Llafur. Mae’r dewis arall hwnnw’n debyg o ddod i’r amlwg yn ystod y pedwerydd Cynulliad … ond dyw hi ddim yn glir o gwbl ai Plaid neu Blaid Geidwadol Cymru fydd yn arwain y broses.”