Atomfa Wylfa
Mae arweinydd y Blaid Werdd Gymreig wedi ymosod ar Plaid Cymru am bleidleisio tros gael atomfa niwclear newydd ym Môn.
Roedd yn cyhuddo cynhadledd y Blaid o droi cefn ar ei hegwyddorion er mwyn diogelu seddi yn y gogledd-orllewin.
Tan hyn, roedd polisi Plaid Cymru yn erbyn datblygu gorsafoedd niwclear newydd, er fod ei harweinydd, Ieuan Wyn Jones, Ac Ynys Môn, o blaid cael atomfa yno.
Ail atomfa yn Wylfa
Wylfa, lle mae atomfa ar hyn o bryd, yw un o’r safleoedd sydd wedi eu clustnodi ar gyfer gorsafoedd pellach gan y Llywodraeth yn Llundain.
Ond yn ôl Jake Griffiths, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, mae hynny’n mynd yn groes i’r duedd ryngwladol gyda gwledydd fel Almaen yn troi cefn ar ynni niwclear, yn sgil y trafferthion yn atomfâu Fukushima yn Japan.
Fe fyddai rhagor o swyddi’n cael eu creu ym Môn, meddai, pe bai arian yn cael ei fuddsdoddi mewn ynni gwyrdd yn hytrach na niwclear.
‘Eironig’
“Mae’n eironig fod Plaid newydd ymrwymo i Gymru annibynnol ac eto mae’n cefnogi cynllun ynni niwclear sydd wedi ei gynllunio gan San Steffan i fodloni gofynion ynni Lloegr,” meddai mewn datganiad.
“Dim ond achub cyfle gwleidyddol yw cefnogaeth y Blaid i niwclear, er mwyn diogelu seddi Môn a Gwynedd yn San Steffan a’r Cynulliad.”