Mike Dye (llun o wefan Facebook)
Mae chwe dyn gafodd eu harestio yn dilyn marwolaeth cefnogwr pêl-droed y tu allan i Stadiwm Wembley wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, meddai’r heddlu.

Fe fu farw Mike Dye, 44, o Gaerdydd, y tu allan i’r stadiwm toc cyn dechrau’r gêm Cymru a Lloegr ddydd Mawrth.

Fe fydd rhaid i’r dynion gafodd eu harestio, sydd rhwng eu 20au hwyr a’u 40au cynnar, ddychwelyd i siarad â swyddogion yr heddlu ym mis Tachwedd, meddai Heddlu’r Met.

Y gred yw mai cefnogwyr Cymru ydyn nhw i gyd. Mae pedwar yn dod o ogledd Cymru, a’r ddau arall o dde ddwyrain Cymru yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn Lloegr, meddai’r Met.

Daethpwyd o hyd i Mike Dye yn dioddef o anafiadau i’w ben y tu allan i lidiart stadiwm Wembley tua 7.20pm.

Dywedodd parafeddygon ei fod hefyd wedi dioddef o drawiad ar y galon cyn iddyn nhw fynd ag ef i ysbyty yng ngogledd Llundain.

Mae’r heddlu yn parhau i alw am unrhyw un welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.

“Mae swyddogion o’r adran Llofruddiaethau a Throseddau Difrifol yn ymchwilio, ac rydyn ni’n parhau i geisio sefydlu’r darlun llawn o beth ddigwyddodd,” meddai llefarydd.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â 020-8358 0100, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”

Teyrnged

Mae Clwb Dinas Caerdydd wedi talu teyrnged i Mike Dye ar eu gwefan.

“Mae ein cydymdeimladau ni â theulu a chyfeillion Mike ar adeg anodd,” meddai prif weithredwr y clwb, Gethin Jenkins.

“Roedd Mike yn gefnogwyr brwd i’r clwb am sawl blwyddyn ac mae ei farwolaeth yn newyddion trist iawn i nifer o fewn ein cymuned ni.”

Cafodd teyrngedau hefyd eu gadael y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.