Richard Branson (David Shankbone CCA 3.0)
Fe fu’n rhaid i’r teicŵn, Richard Branson, roi’r gorau i’w fwriad i helpu nofio o Gaergybi i Ddulyn ddydd Mercher.
Ar ôl i dân ddinistrio un o’i gartrefi yn y Caribî, fe benderfynodd y dyn busnes 61 oed na fydd yn gallu cymryd rhan yn y daith gyfnewid.
Ond mae disgwyl i’r canwr, Ronan Keating, a seren Strictly Come Dancing, Pamela Stephenson, fod yn rhan o’r tîm sy’n ceisio codi £1 miliwn ar gyfer yr elusen Ymchwil Canser.
Y bwriad yw nofio’r 65 milltir ar draws Môr Iwerddon, ond fe allai’r gwynt a’r cerrynt ymestyn hyd y daith.
Fe fydd nofwyr pell profiadol hefyd yn cymryd rhan.